Cynulliad Cenedlaethol Cymru | National Assembly for Wales

Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig | Climate Change, Environment and Rural Affairs Committee

Ymchwiliad Bioamrywiaeth | Biodiversity Inquiry

BIO 16

Ymateb gan : Cyfoeth Naturiol Cymru

Evidence from : Natural Resources Wales

 

Ymateb oddi wrth Cyfoeth Naturiol Cymru i ymchwiliad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig i Fioamrywiaeth – Cynllun Nwyddau Cyhoeddus arfaethedig a amlinellwyd yn yr ymgynghoriad Brexit a'n Tir

 

1.      Rydym yn croesawu’r cyfle i gyfrannu tystiolaeth at ymchwiliad y Pwyllgor i fioamrywiaeth a nwyddau cyhoeddus.Prif ddiben Cyfoeth Naturiol Cymru yw ceisio rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Fel rhan o'r diben hwnnw, un o'n rolau yw bod yn gynghorydd statudol i'r Llywodraeth ynghylch bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau.  Mae ein hymateb i'r ymchwiliad hwn yn ychwanegu at ein hymateb i'r ymgynghoriad ar "Brexit a'n Tir".

Argymhellion allweddol  

    Gosod cydnerthedd ecosystemau wrth wraidd y cynllun.

    Datblygu dull hyblyg ac ymaddasol o weithredu.

    Hyrwyddo adferiad bioamrywiaeth trwy ddarparu ecosystemau cydnerth ar raddfa tirwedd.

    Cyflawni opsiynau sydd wedi'u teilwra ar gyfer rhywogaethau sy'n wynebu difodiant yng Nghymru.

    Diogelu rhywogaethau a chynefinoedd sydd o'r pwys mwyaf er mwyn sicrhau cydnerthedd ecosystemau iach a chydnerth. 

    Sicrhau bod rheolwyr tir yn cael eu cefnogi wrth ddatblygu cynlluniau busnes sy'n integreiddio cydnerthedd economaidd ac ecolegol.

    Sicrhau cefnogaeth barhaus ar gyfer bioamrywiaeth trwy'r cyfnod pontio.

    Datblygu cynllun o amgylch llawr rheoleiddiol clir a safonau sector y gellir gwneud taliadau ar gyfer nwyddau cyhoeddus ychwanegol uwch eu pennau.

    Cymell a hwyluso cydweithio rhwng rheolwyr tir ar sail tystiolaeth dda gan gynnwys y datganiadau ardal.

    Hwyluso cydweithio rhwng rheolwyr tir.

    Datblygu a chefnogi strwythur a ariennir yn briodol sy'n cefnogi hyfforddiant integredig o ansawdd uchel, cyngor ac arweiniad a gwasanaethau eraill ar gyfer rheolwyr tir ar draws busnes a chanlyniadau nwyddau cyhoeddus ar raddfa briodol.

    Sicrhau y bydd y Rhaglen Monitro a Modelu’r Amgylchedd a Materion Gwledig yn darparu data pwysig am dueddiadau cyffredinol a chaniatáu modelu amgylcheddol ehangach. 

    Cefnogi monitro ychwanegol er mwyn adrodd yn ddigonol ar gynefinoedd a rhywogaethau mwy prin.

2.      Mae bioamrywiaeth yn adnodd naturiol hanfodol ac mae'n tanategu strwythur, swyddogaeth a chydnerthedd ein hecosystemau ac mae ganddo arwyddocâd economaidd, cymdeithasol a diwylliannol ehangach. Mae'r berthynas rhwng adnoddau naturiol a defnydd tir yn sylfaenol ar gyfer eu rheolaeth gynaliadwy. Mae angen bod y cynllun yn adnabod y pethau cywir fel nwyddau cyhoeddus, ac mae hyn yn cynnwys yr holl ffactorau sy'n cyfrannu at ecosystemau iach a gwydn.

 

3.      Yn debyg i lawer o weddill Ewrop, mae Cymru'n parhau i wynebu colli bioamrywiaeth. Yn ôl adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2016: Cymru, o blith y rhywogaethau anifeiliaid a phlanhigion a nodwyd fel blaenoriaethau cadwraeth yng Nghymru, mae 33% o’r rhywogaethau a aseswyd wedi dirywio dros y degawd diwethaf, ac nid yw rhwng traean a hanner o'r gweddill wedi dangos gwelliant sylweddol. Mae Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnwys asesiadau o gyflwr ein Hardaloedd Cadwraeth Arbennig ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig, sef y safleoedd sy’n ddarostyngedig i'r lefel uchaf o warchodaeth statudol. Yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig y tir a dŵr croyw yng Nghymru, mae 55% o rywogaethau a 75% o gynefinoedd wedi’u hasesu fel rhai sydd mewn cyflwr anffafriol. 

 

4.      Bydd cynyddu cydnerthedd ecosystemau yn darparu buddiannau sylweddol i wasanaethau eraill sy'n cael eu darparu gan adnoddau naturiol. Er enghraifft, mae adfer glaswelltir gwlyb yn cynyddu lefelau cadw dŵr mewn pridd er mwyn lleihau llifogydd neu sychder, yn cynyddu lefelau dal a storio carbon yn y pridd ac yn lleihau gwaddodi a dŵr ffo gwrtaith er mwyn gwella ansawdd y dŵr mewn cyrsiau dŵr cyfagos. 

 

5.      Yn ystod yr hanner canrif diwethaf, mae dwysáu amaethyddol wedi bod yn un o'r ysgogwyr mwyaf ar gyfer dirywiad bioamrywiaeth ar draws y DU [1]. Mae cynlluniau rheoli tir effeithiol yn hanfodol ar gyfer gwrthdroi'r golled hon mewn bioamrywiaeth. Wrth ystyried dyluniad a gweithrediad cynlluniau grant amaeth-amgylcheddol a choetir dros dri degawd, cafwyd canlyniadau cymysg o ran bioamrywiaeth mewn cynlluniau blaenorol. Mae cyflwr rhai cynefinoedd wedi'i gynnal neu wedi gwella ac mae rhai poblogaethau rhywogaethau wedi sefydlogi tra bod cynefinoedd a rhywogaethau eraill yn dal i ddirywio.

 

6.      Mae'r amrywiaeth mewn llwyddiant yn rhannol o ganlyniad i'r nifer sy'n cymryd rhan. Gwnaeth Rhaglen Monitro a Gwerthuso Glastir adrodd[2] bod cyflwr glaswellt y gweunydd a phorfeydd brwyn yn gwella; roedd 37% o'r cynefin pwysig iawn hwn o fewn cynlluniau Glastir yn 2018. Ar y llaw arall, roedd y dewis mwyaf addas ar gyfer cymunedau planhigion âr prin (cynefin Ewropeaidd Rhestr Goch sydd mewn perygl difrifol ac sy'n dirywio'n gyflym) ond yn gorchuddio 0.08% o dir âr yn 20183.

 

7.      Mae gwaith dadansoddi data cychwynnol Cyfoeth Naturiol Cymru yn dangos bod dros hanner arwynebedd safleoedd gwarchodedig statudol ar y tir yn cael ei reoli gan gynlluniau Glastir ar hyn o bryd. Mewn rhai achosion, mae'r cytundebau hyn yn darparu rheolaeth briodol sy'n cynnal neu'n adfer cyflwr y safleoedd gwarchodedig

hyn. Mewn achosion eraill, mae'r diffyg hyblygrwydd o ran opsiynau o dan y cynlluniau presennol wedi arwain at reolaeth is-optimaidd.

 

Rhan un

 

Sut y gall cynllun Nwyddau Cyhoeddus arfaethedig Llywodraeth Cymru, fel y'i nodir yn Brexit a'n Tir, gael ei ddefnyddio i adfer bioamrywiaeth?

 

8.         Mae sefydlu’r egwyddor gyfrannol ("rhywbeth am rywbeth") fel rhan o ymgynghoriad “Brexit a'n Tir” yn garreg filltir bwysig ac mae'n darparu cyfle i gynyddu camau gweithredu i atal a gwyrdroi cyfraddau dirywio presennol mewn bioamrywiaeth yn sylweddol. Dylai adeiladu cydnerthedd ecosystemau fod wrth wraidd y cynlluniau arfaethedig er mwyn i Lywodraeth Cymru allu cyflawni Cymru gydnerth sy'n cynnal a gwella amgylchedd bioamrywiol, naturiol.  

 

9.         Mae "Brexit a'n Tir" yn rhoi cyfle i ni newid y canfyddiad bod cyflawni ar gyfer yr amgylchedd a darparu nwyddau cyhoeddus, gan gynnwys bioamrywiaeth, yn groes i systemau amaethyddol a choedwigaeth cynhyrchiol ac fel y cyfryw dylid ei drin fel rhywbeth ychwanegol i ddiwydiant sy'n ymwneud â'r tir. Mae ymgorffori cydnerthedd ecosystemau o fewn busnesau sy'n defnyddio'r tir a chydnabod bod cydnerthedd economaidd y busnesau hyn yn cael ei danategu'n sylweddol gan eu cydnerthedd ecolegol yn hanfodol ar gyfer llwyddiant a chyflawniad hirdymor yng Nghymru. 

 

10.     Mae'r ymgynghoriad "Brexit a'n Tir" yn cyflwyno rheoliad, cydnerthedd economaidd a nwyddau cyhoeddus fel tair elfen ar wahân. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn credu bod enillion a buddiannau sylweddol ar gael, ar draws yr holl adnoddau naturiol ac yn enwedig ar gyfer bioamrywiaeth, os bydd y tri mecanwaith cyflawni yn cael eu hintegreiddio a’u darparu mewn modd cyfannol.

 

11.     Gallai datblygu hierarchaeth o elfennau perfformiad sy'n gysylltiedig â chynlluniau nwyddau cyhoeddus gynnwys y canlynol - 

 

a)   'Llawr rheoleiddiol cyffredinol' sy'n tanategu cynlluniau nwyddau cyhoeddus i weithredu fel safon ofynnol ar gyfer yr holl reolwyr tir a fydd yn darparu lefel sylfaenol o nwyddau cyhoeddus gan gynnwys bioamrywiaeth (rheoleiddio). 

b)   Safon arfer da uwchben y llawr rheoleiddiol i helpu i ddatgloi mynediad i'r farchnad (gan gysylltu â chynlluniau cydnerthedd economaidd) neu i ddarparu sicrwydd o ran perfformiad amgylcheddol gan gynnwys lefel o ofynion sy'n ymwneud â bioamrywiaeth. 

c)    Byddai'r cynlluniau nwyddau cyhoeddus yn darparu safonau ar y lefel uchaf ac yn rhoi sicrwydd ynghylch rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy gan gynnwys nwyddau cyhoeddus o werth mawr.

 

Trwy gydol gweddill ein tystiolaeth mae'r defnydd o gynllun neu gynlluniau yn cyfeirio at gyfuniad o gydnerthedd economaidd, nwyddau cyhoeddus a rheoleiddio.

 

12.     Mae cyflawni ar raddfa tirwedd yn hanfodol er mwyn hyrwyddo cydnerthedd ecosystemau. Mae priodoleddau cydnerthedd ecosystemau sy'n cael eu nodi yn Neddf yr Amgylchedd yn darparu fframwaith ar gyfer archwilio ymyriadau posibl i gynnal, gwella neu adfer bioamrywiaeth. Ystyriwn bob un o'r rhain yn ei dro o ran bioamrywiaeth o fewn y cynlluniau arfaethedig -

 

13.     Amrywiaeth. Mae cynnal a gwella bioamrywiaeth frodorol yn ganolog i adeiladu cydnerthedd ecosystemau. Tra bod gofynion cynefinoedd a rhywogaethau prin a lleol

yn cael sylw o fewn safleoedd arbennig sydd eisoes yn bodoli, mae amrywiaeth mewn ystyr ehangach yn hanfodol ar gyfer bioamrywiaeth a chydnerthedd, er enghraifft, o ran cynyddu amrywiaeth strwythurol ar draws tirweddau trwy arferion rheoli amrywiol (priodol), ac arallgyfeirio systemau cynhyrchiol er mwyn cynyddu cynrychiolaeth o rywogaethau brodorol neu rywogaethau addas eraill e.e. o fewn glaswelltiroedd sydd wedi'u gwella, planhigfeydd coniffer. Mae cynyddu amrywiaeth

ar draws tirweddau, cael y peth cywir yn y lle cywir, yn allweddol i adfer bioamrywiaeth ac adeiladu cydnerthedd. 

 

14.     Rhychwant. Mae ehangu ardal y cynefinoedd trwy waith adfer a chreu yn hanfodol ar gyfer adfer bioamrywiaeth ac adeiladu cydnerthedd ac mae'n ymddangos ei fod wedi'i dderbyn o fewn y cynlluniau arfaethedig.

 

15.     Cyflwr. Gall amrediad eang iawn o weithgareddau wella cyflwr ac o ganlyniad bod o fudd i fioamrywiaeth a chydnerthedd, yn aml mewn perthynas â rheolaeth sensitif fwy helaeth a rheoli pwysau megis llygredd a rhywogaethau estron goresgynnol. O ran cydnerthedd, mae'r cyflwr yn ymwneud â chyflawni cydbwysedd cynaliadwy rhwng mewnbynnau ac allbynnau, er enghraifft o wrteithiau neu goed. Mae cynllun integredig yn ddelfrydol ar gyfer cyflawni hyn. 

 

16.     Mae cysylltedd yn ymwneud â'r symud o fewn a rhwng ecosystemau, er enghraifft, rhywogaethau neu brosesau naturiol. Mae modd gwella cysylltedd trwy amrediad eang o weithgareddau y gellir eu hyrwyddo gan y cynllun nwyddau cyhoeddus. Er enghraifft, adfer a chreu cynefinoedd, gwella neu gynnal nodweddion cysylltiol megis gwrychoedd, cyrsiau dŵr neu ymylon caeau.

 

17.     Gellir cyfuno nifer fawr o'r ymyriadau hyn o fewn y cysyniad o Rwydwaith Ecolegol Cydnerth. Mae hwn yn derm cymharol newydd, a gyflwynwyd fel blaenoriaeth genedlaethol o fewn Polisi Adnoddau Naturiol Llywodraeth Cymru (2017).   

 

 

Mae Rhwydweithiau Ecolegol Cydnerth wedi'u diffinio mewn trafodaethau rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru fel cyfres o ardaloedd bioamrywiaeth pwysig (a gynrychiolir yn aml gan safleoedd gwarchodedig) sy'n gysylltiedig yn weithredol, sy’n golygu bod rhywogaethau yn gallu symud oddi mewn iddynt a rhyngddynt fel sy’n ofynnol gan bob cyfnod o'u cylchoedd bywyd. Mae hyn yn caniatáu symudiadau mewn amrediad wrth addasu i newid yn yr hinsawdd; o ganlyniad, mae'r rhwydweithiau yn dod yn fwy cydnerth ynddynt eu hunain ac yn helpu i greu cydnerthedd ecosystemau a darparu nwyddau a gwasanaethau gwell i'r tirwedd ehangach. Byddai rhwydweithiau o'r fath yn cael eu datblygu gan ymyriadau wedi’u targedu fel y disgrifir uchod, e.e. arallgyfeirio, gwelliannau mewn cyflwr a chysylltedd.

 

 

18.     Dylai'r cynlluniau arfaethedig gynorthwyo a chymell datblygiad Rhwydweithiau Ecolegol Cydnerth gyda’r gofyniad am ymyriadau ar raddfa tirwedd. Dylid defnyddio tystiolaeth gan arbenigwyr (er enghraifft, astudiaethau o ofynion rhywogaethau a mapio cysylltedd cynefinoedd Cyfoeth Naturiol Cymru) a gwybodaeth leol i dargedu a blaenoriaethu ymyriadau. Rydym yn disgwyl bod y Datganiadau Ardal yn cael eu defnyddio i gefnogi penderfyniadau ynghylch taliadau ar gyfer nwyddau cyhoeddus.

19.     Mae Tir Comin yn cwmpasu oddeutu 8% o Gymru ac mae cydberthyniad mawr rhwng y safleoedd statudol a thir comin. Byddai targedu gweithredu cydweithredol ar dir comin yn helpu i fynd i'r afael â gwasanaethau ar gyfer nifer o ecosystemau gan gynnwys bioamrywiaeth ar draws ardaloedd graddfa tirwedd Cymru.

 

20.     Byddai adferiad llawer o rywogaethau yn cael ei alluogi trwy reolaeth briodol o gynefinoedd ac ystyriaeth o anghenion cadwraeth penodol. Mae'r rhan fwyaf o enghreifftiau o adferiad rhywogaethau a gyflwynir gan gynlluniau amaethamgylcheddol yn dibynnu ar opsiynau sydd wedi'u teilwra. Yn ogystal, rydym yn gwybod bod cyngor ac arweiniad clir yn cael eu croesawu gan dirfeddianwyr. Dylid ystyried cynnwys cydrannau yn y cynlluniau ar gyfer rhywogaethau sy'n wynebu difodiant yng Nghymru (e.e. glöyn byw brith y gors, y gornchwiglen a phlanhigion âr prin).  

 

21.     Ar hyn o bryd, mae mecanweithiau o fewn Glastir i atal difrod anfwriadol i gynefinoedd a rhywogaethau o ganlyniad i ddewis opsiynau amhriodol. Byddem yn disgwyl gweld y cynllun yn y dyfodol yn parhau i ddarparu mecanweithiau i ddiogelu cynefinoedd Adran 7 a rhywogaethau o'r pwys mwyaf rhag gweithredu amhriodol.

 

22.     Hoffem hefyd archwilio'r holl offer posibl gyda'r tirfeddianwyr ar gyfer cefnogi darparu nwyddau cyhoeddus gan gynnwys ailgyflwyno rhywogaethau.  

 

23.     Ni ddylai'r angen i gyflawni nifer fawr o gytundebau o fewn amser prin yrru lefel uchelgais canlyniadau'r cynllun na'r math o gynllun sy'n cael ei ddatblygu chwaith. Yn ogystal, mae'n bwysig bod y cyfnod pontio yn ddigon hir i allu mynd i'r afael â bylchau mewn tystiolaeth trwy gynlluniau peilot a threialon, fel y gellir adeiladu capasiti gweinyddol, hyfforddi staff, i ddatblygu capasiti cyngor ac arweiniad, ac i gefnogi rheolwyr tir i addasu.  

 

24.     Er mwyn i gynllun fod yn llwyddiannus, dylai'r cynllun fod â manylder a hyblygrwydd digonol i ymdopi ag amrywiaeth a chymhlethdod yr ecosystemau sy'n bresennol yng Nghymru. Bydd hyn yn cymryd amser i'w ddatblygu a'i dreialu. I'r perwyl hwn, dylai'r treialon a'r cynlluniau peilot sy'n cael eu datblygu trwy'r cyfnod pontio ganolbwyntio ar ddarparu cyfran gychwynnol o nwyddau cyhoeddus craidd. Dylid defnyddio'r amser hwn i ddysgu a gwerthuso. Mae rhai canlyniadau yn ddigon syml i'w cyflawni ac mae rhai yn fwy heriol. Bydd yn bwysig treialu opsiynau gyda chyfraddau amrywiol o gymhlethdod ac anhawster yn ystod unrhyw broses peilot.

 

25.     Os na ellir cyflawni cynllun newydd yn ei chyfanrwydd erbyn diwedd y cyfnod pontio, mae'n hollbwysig nad yw bwlch yn cael ei greu yn y gwaith o warchod a rheoli cynefinoedd sydd eisoes yn bodoli sydd naill ai mewn cyflwr da neu sy'n gwella o dan gynlluniau presennol. Gallai'r pwysau ariannol ar reolwyr tir yn dilyn Brexit arwain at berygl o greu cymhellion ar gyfer diraddio cynefinoedd o'r math hwn. Byddai hyn yn niweidiol i nodau bioamrywiaeth a byddai hefyd yn cynrychioli gwastraff sylweddol o ran buddsoddiad cyhoeddus. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno ateb yn y cyfamser trwy gynnig estyniadau i ddeiliaid contractau hyd at 2021. Os yw'n angenrheidiol, dylid ehangu cytundebau rhagnodol sydd eisoes yn bodoli ymhellach na'r amserlen 2021 bresennol er mwyn caniatáu amser i drafod cytundebau newydd.

 

26.     Mae'r rhwydwaith safleoedd gwarchodedig presennol yn dibynnu'n helaeth ar gynlluniau amaeth-amgylcheddol i hyrwyddo rheolaeth briodol. Os bydd bwlch yn y broses o ddarparu arian i reolwyr tir, mae risg mawr y bydd cyflwr safleoedd yn cael ei beryglu sy'n groes i rwymedigaethau cenedlaethol a rhyngwladol. 

 

27.     Byddai bwlch yn y broses o ddarparu arian rheoli tir ar gyfer safleoedd gwarchodedig statudol yn sicr yn rhoi pwysau ychwanegol ar staff Cyfoeth Naturiol Cymru a'r adnoddau ariannol sydd ar gael ar gyfer cytundebau rheoli tir o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru), ynghyd â rhoi pwysau cynyddol ar ein gweithgareddau gorfodi posibl.

 

28.     O fewn Ewrop, mae tystiolaeth ymchwil yn dangos bod nifer o ffactorau allweddol yn gyffredin i gynlluniau llwyddiannus [3]. Dylai'r rhain dderbyn ystyriaeth ddigonol wrth gynllunio cynllun nwyddau cyhoeddus ar gyfer Cymru. 

 

Mae cynlluniau llwyddiannus:

      wedi'u paratoi'n benodol ar gyfer rhanbarth a'u haddasu'n ofalus ar gyfer arferion ffermio ac amodau amgylcheddol lleol; 

      yn cynnwys elfen helaeth o hyfforddiant ar gyfer tirfeddianwyr; 

      yn cynnwys adnoddau digonol a swyddogion prosiect gwybodus sy’n cynnig cefnogaeth dda i dirfeddianwyr ac sy’n gallu monitro canlyniadau; 

      yn helpu i ddatblygu cydweithio; 

      yn defnyddio cyfnodau peilot i fireinio targedau a chyfraddau talu.

 

29.     Mae modelau 'talu am ganlyniadau' fel arfer yn llawer mwy llwyddiannus wrth gyflawni'r canlyniadau dymunol na chynlluniau rhagnodol ond maent yn aml yn fwy cymhleth, yn cynnwys taliadau cynyddol ac yn defnyddio lefelau uchel o gymorth, hyfforddiant a monitro. Dylid ystyried dulliau manwl o'r math hwn ar gyfer elfennau mwy cymhleth neu dechnegol. Gellid cyflwyno cynlluniau mwy heriol yn dechnegol yn raddol ar draws rhanbarthau daearyddol, gan ganiatáu Llywodraeth Cymru, rheolwyr tir a phartneriaid  cyflenwi i ddatblygu profiad a dealltwriaeth ac i weithio mewn modd ymaddasol ac ailadroddol yn ôl gofyn Deddf yr Amgylchedd (Cymru).

 

30.     Mae rheoli tir ar gyfer bioamrywiaeth a nwyddau cyhoeddus eraill yn gallu bod yn gymhleth ac mae rheolwyr tir sy’n manteisio ar arbenigedd yn gwneud yn well na'r rheini nad ydynt yn gwneud defnydd ohono[4],[5]. Er mwyn i'r cynlluniau fod yn llwyddiannus, mae'n ofynnol bod cyngor ac arweiniad, hyfforddiant a chefnogaeth ar gyfer datblygu profiad ar gael fel rhan anhepgor o'r cynllun. Yn ogystal, dylai'r rhain fod ar waith ac ar gael yn eang cyn bod y cynllun yn cael ei lansio er mwyn annog cyfranogiad. Mae'n hanfodol bod digon o adnoddau ar gael ar gyfer yr elfen hon o’r cynllun, yn ariannol ac o ran y sylfaen sgiliau. Dylai hefyd gydnabod y bydd angen cymorth arbenigol i gyflawni rhywfaint o’r gwaith rheoli, e.e. adfer rhywogaethau penodol. Dylai Llywodraeth Cymru gydweithio gyda chyrff anllywodraethol a Cyfoeth Naturiol Cymru i ddod o hyd i arbenigedd o'r math hwn.

 

31.     Dylai cytundebau fod yn seiliedig ar asesiadau ar raddfa briodol. Mae hyn yn caniatáu asesiad arbenigol o gyfleoedd ac opsiynau ar sail gwybodaeth o'r amgylchedd lleol a'r busnes sy'n gwneud defnydd o'r tir.

 

32.     Bydd hyrwyddo cydweithio rhwng rheolwyr tir yn hanfodol ar gyfer cyflawni rhwydweithiau ecolegol cydnerth. Bydd hyn yn gofyn am hwyluso i hyrwyddo cyfranogiad cydweithredol. Mae nifer o fodelau cyflawni wedi'u defnyddio eisoes i'r perwyl hwn. Mae dysgu gwersi o'r rhain i gyd yn hanfodol er mwyn symud ymlaen. Mae'r rhain yn cynnwys hwyluswyr y gellir ymddiried ynddynt (agrisgôp), hwyluswyr technegol arbenigol (LIFE), hwyluswyr annibynnol (Swyddogion y Cynllun Rheoli Cynaliadwy a Swyddogion Datblygu Tir Comin[6]), yn ogystal â dod â diwydiannau'r tir sydd â'r un materion (clystyrau fferm a grwpiau rheoli, e.e. Dartmoor Farming Futures, Ffermwyr Pontbren) at ei gilydd.

 

33.     Mae angen rhoi ystyriaeth bellach i’r ddau faen prawf sydd eu hangen i fodloni "ychwanegolrwydd" yn “Brexit a'n Tir” er mwyn galluogi elfennau sy’n gofyn am beidio ag ymyrryd yn fwriadol er mwyn bod yn gymwys ar gyfer taliadau. Mae opsiynau megis adfywiad coetir naturiol yn gallu darparu nwyddau cyhoeddus lluosog, gan gynnwys budd sylweddol ar gyfer bioamrywiaeth a dal a storio carbon. O dan y meini prawf presennol, efallai na fydd eithrio da byw yn cael ei ystyried yn rheolaeth briodol.

 

34.     Dylid darparu taliadau uwch ar gyfer mesurau sy'n darparu buddiannau lluosog a/neu sy'n cefnogi cyfleoedd graddfa tirwedd, e.e. dylai creu coetir llydanddail brodorol sydd mewn lleoliad lle y gellir atal dŵr llifogydd a chynyddu cysylltedd coetir ddenu cyfraddau tâl uwch na chreu coetir ar ei ben ei hun. Yn y modd hwn, gallai taliadau cynllun sydd wedi'u cynllunio'n dda annog rheolwyr tir i dargedu eu gweithredoedd er mwyn cyflawni'r nifer fwyaf o fuddiannau.

 

35.     Byddai manteision sylweddol yn deillio o integreiddio unrhyw elfen o greu coetir gydag elfennau rheoli tir eraill. Byddai cynllun integredig yn annog ystyried coetiroedd fel rhan o'r cytundeb ar gyfer ffermydd cyfan, yn ogystal â rheoli gofod agored fel rhan o gytundeb coetir. Byddai hyn yn cynyddu tebygolrwydd sefydlu coetiroedd newydd mewn lleoliadau priodol a gellid cynnal cynefinoedd Adran 7 sy'n cael eu cynnwys mewn ardaloedd creu coetir arfaethedig fel cynefinoedd agored.

 

36.     Mae rhywogaethau estron goresgynnol yn peri bygythiad i gydnerthedd ecosystemau yng Nghymru trwy effeithiau megis dadleoli rhywogaethau brodorol, colli cynefinoedd a newid strwythur cymunedol. Gallai cynnwys dull o reoli rhywogaethau estron goresgynnol o fewn y cynllun nwyddau cyhoeddus gyfrannu'n sylweddol at fynd i'r afael â rhywogaethau estron goresgynnol gan y byddai'n golygu y gellid mynd i'r afael â rhywogaethau estron goresgynnol sydd wedi lledaenu’n eang ar raddfeydd gofodol priodol (h.y. ar lefel dalgylch) a gellid ei ddefnyddio hefyd i ddelio â rhywogaethau estron goresgynnol yn gynnar er mwyn eu hatal rhag lledu a gwreiddio yn y lle cyntaf, ac felly lleihau effaith a baich economaidd y rheoli.   

 

37.     Bydd datblygu a darparu cynllun effeithiol yn gymhleth ac yn heriol yn dechnegol. Mae angen ymgymryd ag asesiad gwrthrychol sy'n canolbwyntio ar gyfleoedd ac opsiynau ar gyfer modelau cyflenwi a fydd yn cyflawni orau y canlyniadau ar y cyd y mae Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru ac eraill yng Nghymru yn chwilio amdanynt. Er mwyn sicrhau llwyddiant, mae'n hanfodol bwysig bod personél sy’n meddu ar y sgiliau a phrofiad priodol yn cymryd rhan ym mhob cam o'r broses ddatblygu a chyflawni. Bydd angen cydweithrediad rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru, cyrff anllywodraethol ac eraill er mwyn dod o hyd i'r sgiliau hyn. O ystyried ei arbenigedd, dylai Cyfoeth Naturiol Cymru fod â rôl graidd. 

 

 

Rhan dau

 

Sut y gellid defnyddio polisïau a deddfwriaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer adfer bioamrywiaeth sydd eisoes yn bodoli yng nghynllun a gweithrediad y cynllun nwyddau cyhoeddus arfaethedig? 

 

38.   Yn ogystal â darparu cyfle i ailgynllunio systemau taliadau i wella'r buddiannau ehangach y mae'r tir yn eu cynnig i Gymru ac i gefnogi’r gwaith o gyflawni ein fframwaith deddfwriaethol unigryw, mae Brexit a'n Tir hefyd yn darparu cyfle i asesu sut mae'r systemau cymorth hyn yn cael eu cynnal a'u cyflawni. Unwaith y bydd cyfyngiadau rheoliadau'r UE yn cael eu dileu, bydd geiriad presennol Bil Amaethyddol y DU a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn caniatáu i Gymru benderfynu ar y model cyflawni mwyaf priodol ar gyfer ein fframwaith deddfwriaethol unigryw.

 

39.   Mae'r canlynol yn rhoi adolygiad cryno o amrediad o bolisïau a deddfwriaeth berthnasol Llywodraeth Cymru ac mae'n ystyried sut y gallent fod yn gysylltiedig â chynlluniau a ddatblygir fel rhan o "Brexit a'n Tir", ac yn enwedig y broses o ddarparu’r ymyriadau a ddisgrifir yn rhan un.

 

40.   Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi ei hymrwymiadau ar gyfer bioamrywiaeth yng Nghynllun Adfer Natur Cymru. Mae hwn yn cydnabod mai un o brif ofynion rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy yw sicrhau, drwy egwyddor greiddiol ecosystemau cydnerth, y gall Cymru barhau i gyflawni ei rhwymedigaethau bioamrywiaeth allweddol yn y DU, yn Ewrop ac yn rhyngwladol.

 

41.   Mae angen bod amcanion y cynllun ar gyfer y dyfodol yn gweddu o fewn cyd-destun polisïau lefel uchel. Mae Cymru yn ymrwymedig i weledigaeth Cynllun Strategol ar gyfer Bioamrywiaeth 2011-2020 y Confensiwn ar Amrywiaeth Biolegol: 'Erbyn 2050, bydd bioamrywiaeth yn cael ei werthfawrogi, ei gadw, ei adfer a'i ddefnyddio'n ddoeth, gan gynnal gwasanaethau ecosystemau, cynnal planed iach a chyflawni buddiannau sy'n hanfodol ar gyfer yr holl bobl', â'i genhadaeth i gymryd camau gweithredu ar frys i atal y broses o golli bioamrywiaeth'.

 

42.  Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn cydnabod y pwysigrwydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar ecosystemau ac felly, natur a'i bioamrywiaeth, yn bennaf trwy nod 'Cymru Gydnerth'. Gall bioamrywiaeth gyfrannu at y chwe nod arall sydd yn creu cysylltiadau rhwng amgylchedd naturiol bioamrywiol a buddiannau cymdeithasol ac economaidd.

 

43.  Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, rhan un, o berthnasedd arbennig. Mae’n cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae bioamrywiaeth yn ei wneud tuag at reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy ac i'n llesiant gan roi dyletswydd Adran 6 ar waith sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth wrth arfer swyddogaethau sy'n ymwneud â Chymru, a thrwy wneud hyn, hyrwyddo cydnerthedd ecosystemau. Dylai'r ddyletswydd allweddol hon gael ei hadlewyrchu hefyd yng nghynllun a gweithrediad unrhyw gynllun nwyddau cyhoeddus ac, fel y disgrifiwyd yn rhan un.

 

44.   Mae'r rhestr o gynefinoedd a rhywogaethau pwysig iawn a nodir yn Adran 7 o Ddeddf yr Amgylchedd yn darparu sail ddefnyddiol ar gyfer canlyniadau o fewn y cynllun arfaethedig ac rydym yn argymell bod y rhestr hon yn cael ei halinio'n agos i'w ddatblygiad. Dylai'r cynllun geisio cyflawni camau gweithredu i gynnal ac adfer pob cynefin a rhywogaeth Adran 7 perthnasol.

 

45.   Mae hwn yn eistedd ochr yn ochr â deddfwriaeth sydd eisoes yn bodoli sydd wedi'i chynllunio i ddiogelu ein rhywogaethau a chynefinoedd sydd o dan y bygythiad mwyaf (Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 a Chyfarwyddebau Cynefinoedd ac Adar y Comisiwn Ewropeaidd). Mae safleoedd statudol, sydd wedi'u dynodi o dan y ddeddfwriaeth hon yn cynrychioli cronfa bioamrywiaeth hollbwysig. Mae'r pwysigrwydd hwn wedi'i gydnabod gan bwysoli o fewn Glastir. Dylai'r cynllun arfaethedig parhau i flaenoriaethu safleoedd gwarchodedig ac adeiladu arnynt i greu Rhwydweithiau Ecolegol Cydnerth.

 

46.   Mae'r Polisi Adnoddau Naturiol yn cynnwys tair blaenoriaeth lefel uchel: cynnig atebion sy'n seiliedig ar natur, effeithlonrwydd adnoddau a ffyrdd o weithio sy'n seiliedig ar leoedd. Rydym wedi ystyried sut y gall ffocws ar adeiladu Rhwydweithiau Ecolegol Cydnerth alluogi'r cynllun i gyflawni ar gyfer bioamrywiaeth trwy'r rhain yn rhan un. Rydym wedi sôn am elfennau effeithlonrwydd adnoddau mewn perthynas â mesurau sy'n cefnogi cydnerthedd economaidd yn ein hymateb i "Brexit a'n Tir".  Rydym yn myfyrio ymhellach ar weithio sy'n seiliedig ar leoedd isod.

 

47.   Trydedd elfen y fframwaith rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy yw datganiadau ardal. Mae gan ddatganiadau ardal y potensial i fod yn sylfaen dystiolaeth ar gyfer datblygu a chyflawni cynlluniau sy'n fwy arloesol a hyblyg. Byddant yn darparu gwybodaeth ofodol i gefnogi’r gwaith o nodi cyfleoedd ar gyfer cyflawni gwasanaethau ecosystemau, a rhwydweithiau ecolegol cydnerth. Mae'r dull cydweithredol y mae datganiadau ardal yn cael eu datblygu yn cynnig cyfle i adeiladu a chysylltu â rhwydweithiau lleol, i gasglu gwybodaeth ychwanegol allai fod yn benodol ar gyfer ardal, i gyfrannu tuag at ddatblygu cadwyni cyflenwi posibl a rhannu ffynonellau o arfer da sy'n ymwneud â rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Bydd y rhain i gyd yn bwysig wrth gefnogi pobl i gymryd rhan yn gydweithredol a thargedu ffurfiau eraill o fuddsoddiad ac incwm ar gyfer rheolwyr tir (er enghraifft, twristiaeth). 

 

48.   Er bod datganiadau ardal yn newydd ac yn cael eu datblygu, maent yn cynnig cyfle mawr i fod yn rhan o bensaernïaeth rheoli tir yng Nghymru. Dylai unrhyw dreialon neu

gynlluniau peilot i ddatblygu'r cynllun geisio ateb y cwestiwn o ran sut y gall datganiadau ardal ddarparu tystiolaeth, cyngor, cymorth a dull hwyluso i allu cyflawni’r cynllun arfaethedig.

 

49.   Rydym yn ymrwymedig i weithio gyda Llywodraeth Cymru i archwilio sut y gellir gwneud hyn mewn ffordd sy'n sbarduno canlyniadau ar gyfer bioamrywiaeth a nwyddau cyhoeddus eraill, wrth hwyluso dulliau arloesol a hyblyg sy'n seiliedig ar leoedd, sy’n ofynnol er mwyn cael y canlyniadau gorau ar gyfer Cymru. 

 

50.   Mae llawer o bolisïau a chynlluniau sydd ag ymrwymiadau lle mae'r disgwyliad o ran cyflenwi yn cael ei osod ar y cynllun nwyddau cyhoeddus. Er enghraifft, mae Strategaeth Coetiroedd i Gymru Llywodraeth Cymru (2018) yn cynnwys nifer o ymrwymiadau a datganiadau ynghylch canlyniadau dymunol sy'n berthnasol i fioamrywiaeth a chwmpas cynllun nwyddau cyhoeddus yn y dyfodol. O ran bioamrywiaeth, mae'n cynnwys ymrwymiadau i flaenoriaethu rhywogaethau coetir brodorol wrth adfer coetir sydd wedi'i blannu ar safleoedd coetir hynafol, yr angen i reoli effaith negyddol plâu ac afiechydon, a'r angen am ddulliau strategol ar gyfer ymdrin ag effeithiau rhywogaethau estron goresgynnol mewn coetir. Dylid ymgymryd â dadansoddiad o'r disgwyliadau hyn wrth ddiffinio canlyniadau'r cynlluniau.

 

51.   Safon Coedwigaeth y Deyrnas Unedig (UKFS) yw'r safon gyfeirio ar gyfer rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy yn y DU ac mae'n darparu model ar gyfer datblygu safonau eraill ar gyfer defnydd tir. Mae'n nodi dull llywodraeth y DU ar gyfer rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy, gan ddiffinio safonau er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth reoleiddiol ac arfer da. Mae'n berthnasol i bob coedwig a choetir a reolir yn gyhoeddus, yn breifat a chan y trydydd sector. Nid oes unrhyw beth tebyg ar gyfer mathau o ddefnydd tir eraill yng Nghymru ond pe byddai, gallent gael eu cysylltu i’r gwaith o gyflenwi’r cynlluniau arfaethedig. Mae yna ganllawiau bioamrywiaeth penodol o fewn Safon Coedwigaeth y DU a allai lywio cynllun a gweithrediad cynllun nwyddau cyhoeddus arfaethedig sy'n berthnasol i bob math o ddefnydd tir yng Nghymru, er enghraifft:

 

o   Rheoli o leiaf 15% o uned reoli'r goedwig gyda chadwraeth a gwella bioamrywiaeth yn brif amcan. 

o   Sicrhau bod nodweddion gwlyptir megis ffynhonnau, rhuthrau dŵr a chorsydd yn cael eu diogelu.

 

 

Rhan tri

 

Pa wersi y gellir eu dysgu o Raglen Monitro a Gwerthuso Glastir er mwyn sicrhau dull effeithiol o fonitro a gwerthuso cynlluniau i helpu i adfer bioamrywiaeth?

 

52.     Mae'n bwysig cydnabod bod gan Raglen Monitro a Gwerthuso Glastir gylch gwaith ehangach o lawer nag adrodd am fioamrywiaeth yn unig, ac o reidrwydd roedd yn rhaid i'r rhaglen ganolbwyntio ar agweddau dethol yn hytrach na rhoi darlun cynhwysfawr ar gyfer yr holl fioamrywiaeth. Fodd bynnag, darparodd wybodaeth ar draws amrediad o gynefinoedd a rhywogaethau, sy'n debygol o alluogi arwyddion cyffredinol o newid mewn bioamrywiaeth i gael eu canfod (os bydd y monitro yn cael ei ailadrodd). Mae'n werth nodi bod Rhaglen Monitro a Gwerthuso Glastir wedi cynnwys cofnodi bioamrywiaeth y pridd, agwedd bwysig iawn ar fioamrywiaeth nad yw’n cael ei chofnodi’n ddigonol fel arfer.

 

53.     Byddai'r strategaeth samplu maes, sy'n defnyddio sampl haenedig sy'n seiliedig ar dirwedd o sgwariau sy'n mesur un cilomedr, wedi dylanwadu ar y dystiolaeth a gasglwyd ar fioamrywiaeth, gan fod mwy o waith samplu wedi'i gynnal ar ddefnydd a chynefinoedd tir comin nag ar gynefinoedd mwy prin a rhywogaethau cysylltiedig. Gwir rym y dull hwn yw'r potensial i ail-samplu bioamrywiaeth o fewn sampl cyson, gan ganiatáu i newidiadau gael eu dangos â hyder ystadegol.

 

54.     Gall newidiadau mewn bioamrywiaeth ddigwydd (neu gael eu canfod) dros gyfnodau hir o amser. Roedd Rhaglen Monitro a Gwerthuso Glastir yn cydnabod hyn, ac ystyrir bod llawer o'r wybodaeth a gofnodwyd yn llinell sylfaen i alluogi newidiadau i gael eu canfod mewn digwyddiadau monitro yn y dyfodol (yn ogystal â darparu parhad â rhaglenni monitro hanesyddol). Ar y cyd â hyn mae’r defnydd o fodelu er mwyn helpu i ddeall y prosesau hirdymor hyn ac ymatebion bioamrywiaeth i newid amgylcheddol.

Mae'r gwerthfawrogiad hwn o’r amserlenni sy'n gysylltiedig â phrosesau ecolegol, pwysigrwydd hanfodol cynnal gwaith monitro hirdymor cyson, a gwerth modelu wedi’i dargedu yn negeseuon allweddol i'w cymryd o Raglen Monitro a Gwerthuso Glastir.  

 

Sut ddylai'r Rhaglen Monitro a Modelu’r Amgylchedd a Materion Gwledig newydd gael ei chynllunio a'i gweithredu'n effeithiol at y diben hwn?

 

55.     Dylai'r Rhaglen Monitro a Modelu’r Amgylchedd a Materion Gwledig ddarparu tystiolaeth i gefnogi’r broses o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, yn enwedig fel ffynhonnell allweddol ar gyfer yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol. Rhagwelir y bydd y Rhaglen Monitro a Modelu’r Amgylchedd a Materion Gwledig yn cyfrannu hefyd  at amrediad ehangach o ofynion cofnodi cartref a rhyngwladol sy'n ymwneud â'r amgylchedd, bioamrywiaeth, ac adnoddau naturiol.

 

56.     Wrth gydnabod yr uchod, hoffem weld bod cynllun a chyflawniad dilynol y Rhaglen Monitro a Modelu’r Amgylchedd a Materion Gwledig yn cael ei alinio â’r fframwaith cofnodi ar gyfer rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy a gafodd ei ddatblygu gan Lywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru, sy'n seiliedig ar y llif tystiolaeth dilyniannol rhwng yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol, y Polisi Adnoddau Naturiol a datganiadau ardal. Yn ogystal, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn datblygu cyfres o bedwar mesur allweddol ar gyfer adrodd ar lwyddiant y broses o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy ac rydym yn disgwyl  bod y rhain hefyd yn alinio â’r Rhaglen Monitro a Modelu’r Amgylchedd a Materion Gwledig, ac yn defnyddio tystiolaeth a gesglir gan y rhaglen.

 

57.     Ynghylch y cwestiwn o gynllunio a gweithredu'r Rhaglen Monitro a Modelu’r Amgylchedd a Materion Gwledig ar gyfer adrodd ar fioamrywiaeth, byddem yn nodi, ar y cyfan, bod yr elfen arolwg maes wedi'i chytuno bellach a'i chyfyngu gan doriadau mewn cyllid. Rydym yn cydnabod (fel yn achos Rhaglen Monitro a Gwerthuso Glastir o'r blaen), y bydd  y rhaglen yn casglu data detholus, ond sydd eto i gyd yn bwysig, ar fioamrywiaeth a ddylai dangos tueddiadau cyffredinol mewn statws a, thrwy fodelu, cysylltu'r tueddiadau hyn â ffactorau amgylcheddol a chymdeithasol ehangach. Fel y cyfryw, mae gan y Rhaglen Monitro a Modelu’r Amgylchedd a Materion Gwledig y potensial i ddarparu gwybodaeth werthfawr am ddynameg hirdymor rhai elfennau o fioamrywiaeth, cydnerthedd ecosystemau, a llwyddiannau agweddau ar reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Mae parhad yn hanfodol, ac rydym yn cefnogi'n frwd y broses o ail-arolygu samplau cynrychioliadol o Raglen Monitro a Gwerthuso Glastir yn gyson.

 

58.     Dylai Llywodraeth Cymru fod yn ofalus i beidio â defnyddio'r un data sydd wedi'i fodelu o'r Rhaglen Monitro a Modelu’r Amgylchedd a Materion Gwledig i dargedu ymyriadau ac i fonitro canlyniadau. Mae'n rhaid bod monitro yn aros ar wahân i gyflawni er mwyn darparu canlyniadau ystyrlon.

 

59.     Ni fydd y Rhaglen Monitro a Modelu’r Amgylchedd a Materion Gwledig, fel y'i cynigir ar hyn o bryd, yn darparu'r dystiolaeth fanwl ar statws llawer o gynefinoedd a rhywogaethau sy'n ofynnol er mwyn llywio’r gwaith o ddatblygu cynllun ac adrodd yn barhaus ar gyfer naill ai'r cynllun arfaethedig neu'r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol. Gallai samplau ychwanegol mewn cynefinoedd llai cyffredin na fyddent yn cael eu cofnodi’n ddigonol fel arall o dan y strategaeth samplu bresennol yn lleihau'r broblem hon. 

 

60.     Mae cynlluniau sy'n talu yn ôl canlyniad yn defnyddio presenoldeb cynefin a reolir yn briodol i gynrychioli presenoldeb rhywogaethau. Ni ellir defnyddio'r rhywogaethau eu hunain fel canlyniad gan y byddai hyn yn annheg i'r tirfeddiannwr; nid oes unrhyw warant ar sail fferm unigol bod rhywogaeth yn mynd i wladychu neu aros. Fodd bynnag, mae'n rhaid mai llwyddiant cynllun fydd monitro er mwyn cofnodi gwir lefelau poblogaeth rhywogaethau. Nid yw'r Rhaglen Monitro a Modelu’r Amgylchedd a Materion Gwledig yn cynnwys digon o fonitro rhywogaethau ar hyn o bryd er mwyn adrodd ar effeithiolrwydd y cynllun arfaethedig ar gyfer adfer rhywogaethau.

 

61.     Yn nhermau adrodd ehangach ynghylch cydnerthedd ecosystemau, byddem hefyd yn nodi y gallai dangosyddion ar draws Cymru megis helaethder a dosbarthiad ecosystemau, a mesurau deilliadol megis cysylltedd, gael eu casglu’n well drwy dechnegau synhwyro o bell yn hytrach nag arolygon maes sampl. Mae dull synhwyro o bell yn darparu cwmpas daearyddol cyflawn, gan ddatrys y broblem  ynghylch nifer cyfyngedig o sgwariau sampl ar gyfer rhai mesurau. Er hyn, mae’n annhebygol y bydd dull synhwyro o bell byth yn ddigon cywir i ddarparu gwybodaeth ddibynadwy ar gyfer pob mesur. Felly, byddem yn annog cydweithio rhwng y Rhaglen Monitro a Modelu’r Amgylchedd a Materion Gwledig a mentrau megis y Prosiect Cymru Fyw, i ddatblygu dulliau integredig y gallai’r cynllun arfaethedig eu defnyddio.

 

62.     Yn olaf, bydd angen monitro ansoddol a gwerthuso ychwanegol er mwyn cael dealltwriaeth well o'r goblygiadau diwylliannol ac ymddygiadol sydd ynghlwm wrth symud at y cynllun newydd. Er enghraifft, bydd deall safbwyntiau’r rheolwr tir ar rôl a gwerth bioamrywiaeth mewn perthynas â'i fusnes yn darparu mewnwelediad gwerthfawr er mwyn cefnogi a llywio newid diwylliannol ac ymddygiadol yn y dyfodol.

 

(18/01/19)

 



[1] Burns F, Eaton MA, Barlow KE, Beckmann BC, Brereton T, Brooks DR, et al. (2016) Agricultural Management and Climatic Change are the Major Drivers of Biodiversity Change in the UK. PLoS ONE 11(3).

[2] Rhaglen Monitro a Gwerthuso Glastir. Adroddiad Terfynol. Emmett B.E. a’r tîm Rhaglen Monitro a Gwerthuso Glastir, 2017. 3 Y nifer sy’n cymryd rhan yng nghynllun Glastir gan Lywodraeth Cymru, 2018.

[3] Keenleyside C, Radley G, Tucker G, Underwood E, Hart K, Allen B a Menadue H (2014) Results-based Payments for Biodiversity

Guidance Handbook: Designing and implementing results-based agri-environment schemes 2014-20. Paratowyd ar gyfer y Comisiwn Ewropeaidd, Cyfarwyddiaeth Gyffredinol yr Amgylchedd, Rhif Cytundeb ENV.B.2/ETU/2013/0046, Sefydliad Polisi Amgylcheddol Ewropeaidd, Llundain.

[4] Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig. (2013). Review of Environmental Advice, Incentives and Partnership Approaches for the Farming Sector in England. 

[5] Boatman, N., Short, C., Elliot, J., Gaskell, P., Hallam, C., Laybourn, R. a Jones, N. (2015). Agreement scale monitoring of

Environmental Stewardship 2013-4: assessing the impact of advice and support on the environmental outcomes of HLS agreements.

[6] http://www.ccri.ac.uk/glastir/